Christina McKelvie MSP, Convenor
 Equalities and Human Rights Committee 
 The Scottish Parliament

12 Rhagfyr 2017

Annwyl Christina

Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru

Gwyddoch fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys ymgynghoriad ysgrifenedig a chlywed tystiolaeth lafar. Ers dechrau’r ymchwiliad, mae’r Pwyllgor wedi culhau cwmpas yr ymchwiliad i ganolbwyntio ar effaith Brexit ar hawliau dynol.

Fel rhan o’n hymchwiliad bu’r Pwyllgor yn trafod statws presennol y trafodaethau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a chlywsom gan Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Yn y cyfarfod, cytunwyd ar gyfres o egwyddorion craidd y credwn y dylid cydymffurfio â nhw yn ystod y broses Brexit mewn perthynas â hawliau dynol. Byddwn yn monitro cynnydd yn ôl yr egwyddorion hyn a byddwn yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda'n pwyllgorau seneddol cyfatebol ar draws y DU ar y materion hyn.

Yr egwyddorion craidd yw:

-     ni fydd unrhyw atchweliad i’r amddiffynfeydd cydraddoldeb a hawliau dynol sydd gennym yma ym Mhrydain ar ôl i ni adael yr UE;

-     dylai Cymru sefydlu mecanwaith ffurfiol i olrhain datblygiadau yn y dyfodol o ran hawliau dynol a chydraddoldeb yn yr UE, i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn elwa o'r un lefel o ddiogelwch â dinasyddion yr UE; a

-     dylai Cymru barhau i fod yn arweinydd byd-eang ym maes hawliau dynol, ac ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i gau unrhyw fylchau o ran hawliau ac amddiffyniad os nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud hynny (lle bo modd).

Rydym o'r farn bod yn rhaid cadw'r Siarter Hawliau Sylfaenol mewn rhyw ffurf ar ôl ymadael â’r UE. Croesawn y datganiad a wnaed gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ar 24 Hydref[1] a oedd yn cefnogi'r ymdrechion i sicrhau y bydd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn parhau i barchu'r Siarter ar ôl Brexit. Rydym hefyd yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyhoeddi'r dadansoddiad o sut y bydd hawliau'r Siarter yn cael eu diogelu ar ôl i'r DU ymadael â’r UE.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ceisio:

-     Ymgysylltu o ran y gwaith craffu ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael);

-     Ystyried y posibilrwydd o ddatblygu cyfraith hawliau dynol yng Nghymru, fel yr awgrymwyd yn y dystiolaeth a ddaeth i law.

Fel y soniwyd yn fy llythyr dyddiedig 9 Ionawr, ac mewn gohebiaeth a fu rhyngom ers hynny, rydym yn awyddus i drafod blaenoriaethau a materion sydd o ddiddordeb i bawb ohonom gyda Chadeiryddion pwyllgorau cyfatebol yn y deddfwrfeydd datganoledig ac yn Senedd y DU. Deallaf fod ein clercod yn gweithio ar geisio dod o hyd i ddyddiad sy’n gyfleus i bawb.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych maes o law.

Yn gywir

John Griffiths AC
Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.

 



[1] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Cyfarfod Llawn, Eitem 3, 11 Hydref 2016